Llwyfannau Creadigol – Hyfforddiant Hygyrchedd Creadigol i Ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Ar gyfer pwy?

Mae’r cyfle hwn i gael hyfforddiant proffesiynol, a grëwyd gan Papertrail, ar gyfer Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain Lefel 6 (neu gyfatebol i hynny). Boed hyn yn flas cyntaf ar ddehongli llwyfan, neu eich bod yn ddehonglwr profiadol sy’n chwilio am ysbrydoliaeth a datblygiad, nod yr hyfforddiant hwn yw cynyddu eich hyder a’ch gwybodaeth am ddehongli ar gyfer y theatr er mwyn rhoi’r profiad gorau i gynulleidfaoedd byddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Beth fydd yn digwydd?

Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi cyd-destun cefnogol i ofyn cwestiynau a datblygu eich sgiliau. Dros dridiau byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau chwareus sy’n canolbwyntio ar gael gwared â’r dirgelwch am yr ystafell ymarfer a chael y gorau gan gyfarwyddwyr, actorion a chynhyrchwyr. Bydd sesiynau am weithio gyda sgript ac archwilio technegau i gyfleu’r cymeriadau’n glir. Bydd y gweithdai hefyd yn cynnwys technegau ymlacio a chyfleoedd i fyfyrio a thrafod. Arweinir y gweithdai gan ymarferwyr amlwg mewn hygyrchedd creadigol gan gynnwys Jenny Sealey (Graeae) a’r dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, Julie Doyle a Tony Evans ac maent yn cael eu hwyluso gan Gyd-gyfarwyddwyr Artistig Papertrail, Bridget Keehan a Jonny Cotsen.

Beth fydd y gost?

Rydym am i’r hyfforddiant hwn fod yn hygyrch i’r rhai ar incwm isel ac mae’r cwrs yn cael ei gynnig ar bris gostyngedig arbennig o £400.

Ble a Phryd?

Cynhelir y gweithdy tri diwrnod hwn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, o ddydd Mawrth 2 Medi hyd ddydd Iau 4 Medi 2025. Bydd y sesiynau’n rhedeg o 9.30 y.b. hyd at 4.30 y.h., ac mae’n ofynnol bod yn bresennol dros y tri diwrnod cyfan.
Mae lleoedd yn gyfyngedig i 8 person, felly archebwch cyn gynted â phosibl trwy glicio ar y ddolen: https://forms.gle/pogP38TM3Lr1Nn9m7. Y dyddiad cau ar gyfer archebu yw dydd Gwener 25 Gorffennaf ond cofiwch bod y lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail cyntaf i’r felin. Mae’n bosibl gwneud cais i’r Gymdeithas Dehonglwyr Iaith Arwyddion (ASLI) am gymorth ariannol ar gyfer yr hyfforddiant hwn. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am archebu, neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â manager@papertrail.org.uk.

Rydym wedi ymrwymo i waredu rhwystrau rhag cyfrannu. Os oes gennych anghenion o ran hygyrchedd, neu os oes angen cymorth arnoch, plîs cysylltwch i drafod sut y gallwn eich cefnogi.

Llenwch y ffurflen gais hon i wneud cais am gyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Funding logo strip: Arts Council of Wales / Lottery Dunded / Sponsored by Welsh Government
Partner logo: Royal Welsh college of Music & Drama
Partner Logo: Association of Language Interpreters