Sioeau
Mae pob cynhyrchiad yn cyfuno ysgrifennu nodedig â llwyfannu anturus, ac yn golygu gweithio ochr yn ochr â chymunedau i greu’r gwaith.
Caiff ein proses ei yrru gan chwilfrydedd.
Hoffwn ddod i adnabod pobl mewn lleoliadau penodol a darganfod yno y straeon sydd angen eu clywed.
-
Darllenwch am YmweliadMae A Visit yn ymwneud â throsedd a chyfiawnder ac am bwy sydd i ofalu am y plant pan gaiff mam ei hanfon i garchar. Mae Angharad, sy’n bymtheg mlwydd oed, yn ymweld â’i mam, Ffion, mewn carchar ymhell o’u cartref yn Aberdâr. Caiff hi ei chymryd yno gan ei modryb, Carys, sydd wedi bod yn gwneud ei gorau i ofalu amdani, ond ‘dyw gofalu am ferch yn ei harddegau ddim yn hawdd. A doedd Anti Carys erioed wedi bwriadu bod yn fam. Pwy felly sy’n mynd i ofalu am Angharad? Mae Bridget Keehan a Siân Owen o Papertrail wedi creu… Ymweliad
-
Darllenwch am Noson yn y CarcharMae A Night in the Clink yn berfformiad ar ffurf swper theatrig, wedi ei leoli ym Mwyty’r Clink yng ngharchar Caerdydd. Mae tri dyn, sy’n dod i ddiwedd eu dedfryd, yn coginio ac yn gwasanaethu’r gynulleidfa tra’n rhannu eu straeon a’u gobeithion am eu bywydau ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Datblygodd y straeon o gyfres o weithdai gyda thîm Bwyty’r Clink yng Nghaerdydd, a gyda phobol sy’n bwrw eu dedfrydau yng Ngharcharau Prescoed a Chaerdydd. Cafodd y cynhyrchiad ei greu a’i gyfarwyddo gan Bridget Keehan a’i ysgrifennu gan Matthew Bulgo, Branwen Davies a Tracy Harris. Fe’i cynhyrchwyd mewn partneriaeth â… Noson yn y Carchar
-
Darllenwch am Prosiect HwshDiweddariad: Yn anffodus, o ganlyniad i COVID-19, roedd rhaid gohirio Project Hush, ond ni allwn aros i berfformio’r stori anhygoel hon ynghyd â’n cyd-gynhyrchwyr, Theatr Clwyd, cyn gynted ag y bo modd. Mae yna gyfrinach yn Nyffryn Rhydymwyn: ar un adeg yr oedd yn ganolbwynt i’r ras i adeiladu’r bom atomig cyntaf. Yn 1940 cyfrifodd dau ffisegydd, Otto Frisch a Rudolph Peierls (a oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Birmingham), bod hi’n bosib creu bom atomig. Ond roedd angen safle addas arnynt i brofi eu damcaniaethau. Dewisodd Llywodraeth Prydain gweithfeydd Dyffryn Rhydymwyn fel y lle hwnnw. Cafodd y mathemategydd Klaus Fuchs (a… Prosiect Hwsh
-
Darllenwch am Dydd a FyndDay to Go: stori a lle wedi eu gweu mewn i daith bws hudolus … Taith fws farddonol trwy dref Y Barri oedd ffurf y cynhyrchiad hwn. Gwrandawodd cynulleidfaoedd ar drac sain o leisiau cymeriadau lleol, ddoe a heddiw, a gafodd ei ddatblygu dros flwyddyn o weithdai gyda chymunedau Ynys a thref Y Barri. Y canlyniad oedd profiad amlhaenog, gafaelgar a oedd yn gwahodd cynulleidfaoedd i ystyried taith bywyd eu hunain wrth anelu tuag at yr arhosfan olaf. Adolygiadau: Wales Arts Review Buzz Magazine The Guardian The Arts Desk Ffotos / Photos: Wyn Mason
-
Darllenwch am Y CynhwyswrMae The Container gan Clare Bayley yn adrodd stori pum cymeriad sydd wedi eu cuddio yng nghefn lori, yn teithio tuag at beth gobeithiant fydd yn fywyd gwell. Cynhyrchwyd y ddrama hon gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru a Theatr y Sherman, a’i pherfformio mewn blwch morgludiant lori 40 troedfedd o hyd. ‘The setting works tremendously well. Tom Raybould’s sound design creates a sense of a truck moving, jolting, shuddering to an ominous stop. Bridget Keehan’s direction makes the most of the space, amplifying points at which violence erupts or emotions can no longer be contained. The cast give haunting portrayals of lives… Y Cynhwyswr
