Photograph from 'Project Hush'

Prosiect Hwsh

Diweddariad:

Yn anffodus, o ganlyniad i COVID-19, roedd rhaid gohirio Project Hush, ond ni allwn aros i berfformio’r stori anhygoel hon ynghyd â’n cyd-gynhyrchwyr, Theatr Clwyd, cyn gynted ag y bo modd.

Mae yna gyfrinach yn Nyffryn Rhydymwyn:

ar un adeg yr oedd yn ganolbwynt i’r ras i adeiladu’r bom atomig cyntaf. Yn 1940 cyfrifodd dau ffisegydd, Otto Frisch a Rudolph Peierls (a oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Birmingham), bod hi’n bosib creu bom atomig. Ond roedd angen safle addas arnynt i brofi eu damcaniaethau.

Dewisodd Llywodraeth Prydain gweithfeydd Dyffryn Rhydymwyn fel y lle hwnnw. Cafodd y mathemategydd Klaus Fuchs (a gafwyd yn euog yn ddiweddarach o ysbïo) ei gyflogi i oruchwylio’r profion yn Rhydymwyn, a chadarnhaodd yr arbrofion fod bom atomig yn wir yn bosibl. Aeth y gwyddonwyr hyn ymlaen i weithio ar The Manhattan Project, a helpu adeiladu’r bom a fyddai’n dinistrio Hiroshima.

Mae Kyoko Gibson yn un o oroeswyr y bomio yn Hiroshima ac mae’n byw yng Nghwmtwrch Uchaf. Ei stori hi, a stori’r gwyddonwyr, yn ogystal â’r menywod lleol a gafodd eu drafftio i weithio ochr yn ochr â nhw (yn anwybyddus o union bwrpas eu gwaith), yw’r ysbrydoliaeth sydd wrth wraidd Project Hush.

Lluniwyd gan Bridget Keehan ac ysgrifennwyd gan Matthew Bulgo, Manon Wyn Jones & Yasuro Ito.