Mae A Night in the Clink yn berfformiad ar ffurf swper theatrig, wedi ei leoli ym Mwyty’r Clink yng ngharchar Caerdydd.
Mae tri dyn, sy’n dod i ddiwedd eu dedfryd, yn coginio ac yn gwasanaethu’r gynulleidfa tra’n rhannu eu straeon a’u gobeithion am eu bywydau ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.
Datblygodd y straeon o gyfres o weithdai gyda thîm Bwyty’r Clink yng Nghaerdydd, a gyda phobol sy’n bwrw eu dedfrydau yng Ngharcharau Prescoed a Chaerdydd. Cafodd y cynhyrchiad ei greu a’i gyfarwyddo gan Bridget Keehan a’i ysgrifennu gan Matthew Bulgo, Branwen Davies a Tracy Harris.
Fe’i cynhyrchwyd mewn partneriaeth â Theatr y Sherman, Bwyty’r Clink a Charchar Ei Fawrhydi Caerdydd.
Adolygiadau:

