Cadeirydd Papertrail, Mae Suzanne wedi bod yn gweithio ym maes marchnata celfyddydau, diwylliant a digwyddiadau ers dros 25 mlynedd. Hyfforddodd fel newyddiadurwraig ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Mae hi wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, elusennau, sefydliadau diwylliannol bach a mawr. Mae hi bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun fel Ymgynghorydd Marchnata a Chyfathrebu ac mae wedi cefnogi yn ystod y blynyddoedd diwethaf Theatr Sherman, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Citrus Arts, UPROAR, Adverse Camber, The Other Room a People Speak Up. Mae Suzanne wedi’i chofrestru gyda’r Sefydliad Siartredig Marchnata.

