Mae Nia Gandhi yn actores, awdures a chynhyrchydd o Dde Cymru.
Fel actores mae hi wedi ymddangos yn Enola Holmes 2 (Netflix/Legendary Pictures), Casualty (BBC), Jane Eyre (Stephen Joseph Theatre/New Vic) Splinter (Sherman Theatre) a The Medici (BBC Audio).
Mae hi wedi gweithio’n ddwyieithog gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar Pijin/Pigeon a Chwmni Frân Wen ar Corn Gwlad ac wedi gweithio gyda Theatr Kali yn Birmingham Rep, Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru.
Fel awdures mae hi wedi gweithio gyda Dirty Protest ar eu noson ffilmiau byrion Wales is Drowning ac yn Theatr Sherman fel rhan o Scene/Change.
Yn ddiweddar mae hi wedi dechrau gweithio gyda JHOOM – y cwmni cyntaf i greu gwaith gan ac ar gyfer y gymuned De Asiaidd yng Nghymru – fel cynhyrchydd cynorthwyol.

