Papertrail yn cyhoeddi’r ddau Artist Cyswllt ac Egin Artist Cyswllt y byddant yn eu cefnogi yn ystod 2025

Yn dilyn galwad am bobl greadigol i gydweithio â Papertrail, mae’r cwmni’n cyhoeddi penodi dau Artist Cyswllt ac un Egin Artist Cyswllt. Byddant yn cefnogi’r artistiaid i ddatblygu prosiectau sy’n rhoi llwyfan i leisiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru.

Gyda chefnogaeth Grant Camau Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Papertrail wedi bod yn ehangu ei weledigaeth ac yn sefydlu ei hun fel cwmni theatr cynhwysol sy’n hyrwyddo lleisiau sydd wedi’u tangynrychioli yn y celfyddydau. Mae’r cwmni wedi creu model arweinyddiaeth newydd, sy’n cyfuno sgiliau a thalentau’r Sylfaenydd a’r Cyd-gyfarwyddwr Artistig, Bridget Keehan a’r Cyd-gyfarwyddwr Artistig Jonny Cotsen. Fel rhan o’i weledigaeth i’r dyfodol a’i ymrwymiad i gefnogi a rhoi llwyfan i leisiau sydd wedi’u tangynrychioli yn y theatr, fe estynnodd Papertrail wahoddiad i artistiaid o Gymru a’r rheiny sy’n byw yng Nghymru i wneud cais am ddwy swydd Artist Cyswllt gyda’r cwmni.

Mae’n bleser gan Papertrail gyhoeddi y bydd Samantha O’Rourke a Catherine Dyson yn gweithio gyda Papertrail fel Artistiaid Cyswllt a bydd Nia Gandhi yn cael ei chefnogi fel Egin Artist Cyswllt.

“Cawsom ymateb anhygoel i’r alwad am Artistiaid Cyswllt yn gynharach eleni. Fe grëwyd argraff fawr arnom gan nifer ac ansawdd y ceisiadau a’r syniadau a gawsom gan ysgrifenwyr, gwneuthurwyr theatr a cherddorion. Roedd yr ymgeiswyr yn gweld cyfleoedd cyffrous i ni eu cefnogi a datblygu syniadau yr oeddent am weithio arnynt er mwyn tynnu sylw at straeon nas clywyd o’r blaen.”
Jonny Cotsen, Cyd-gyfarwyddwr Artistig.

Mae Samantha O’Rourke yn ysgrifennwr-gyfarwyddwr anabl, cwiar, sydd yn byw yng ngogledd Cymru ac a enwebwyd am wobr BAFTA. Mae Samantha wedi gweithio ar gomisiynau gyda Channel 4, BBC Cymru a gyda Theatr Clwyd, Volcano Theatre, Boundless Theatre a Dirty Protest. Mae Samantha yn angerddol am leisiau nas clywyd o’r blaen Glanhawyr sy’n gweithio yng Nghymru, a’r ffordd y mae cymdeithas yn eu trin.


Dywedodd Samantha, “Rydw i wrth fy modd fy mod am ddatblygu fy mhrosiect, Cleaners, gyda Papertrail. Bydd Cleaners yn cynnig taith drochol, ddwys drwy eiriau a straeon glanhawyr benywaidd o Gymru. Wedi’i ysbrydoli gan fy mam yng nghyfraith anhygoel, Clwyd – y person mwyaf doniol, arbennig, caredig a chraff – mae’r darn yn ceisio anrhydeddu’r menywod, fel hi, y mae eu gwaith yn aml yn anweledig. Er mwyn sicrhau bod y prosiect yn adlewyrchu lleisiau glanhawyr go iawn, gyda gonestrwydd a chywirdeb, byddaf yn defnyddio cyfweliadau a deialog gair am air. Byddwn yn archwilio ym mhle y dylem osod y ddrama – o bosib mewn adeilad sy’n teimlo’n ffurfiol ac yn fan busnes – lle na fyddai fel arfer yn cael ei ddefnyddio. Dw i am i’r profiad deimlo ychydig yn anarchaidd, gan dywys cynulleidfaoedd i fyd y tu allan i oriau gwaith, byd sydd fel arfer yn gudd. Dw i am i gynulleidfaoedd ymuno â’r glanhawyr ar ei shifft nos – gofod hudol rhwng ffuglen a realiti – ble mae stafelloedd mawr gwag yn trawsffurfio drwy bresenoldeb a lleisiau’r menywod hyn. Bydd y darn yn cynnwys elfennau o osodwaith, seinwedd, symudiad, cân, a rhyngweithio gyda’r gynulleidfa. Crëir cyfleoedd ar gyfer archwilio, myfyrio a darganfod.”

Mae Catherine Dyson yn ysgrifenwr a pherfformwraig o Gaerdydd sydd wedi gweithio gyda RedCape Theatre, Theatr y Sherman, BBC Radio 4, Theatr Glan yr Afon a Theatr Iolo. Mae hi ar gytundeb ysgrifennu gyda’r National Theatre ar hyn o bryd.

Bu Catherine yn gwirfoddoli mewn Banc Bwyd lleol dros y blynyddoedd diwethaf ac fe’i hysbrydolwyd gan y bobl sy’n ei ddefnyddio, eu straeon a thema ansicrwydd bwyd. Mae’r prosiect y bydd hi’n gweithio arno gyda Papertrail yn archwilio sut mae bwyd yn cysylltu pob un ohonom.

Dywedodd Catherine, “Rwy’n datblygu perfformiad sy’n ymwneud â’r syniad o gadwyni cyflenwi bwyd ac ansicrwydd bwyd, a’r straeon cudd sydd yn y bwyd sy’n cyrraedd ein platiau. Mae teithiau’r bwydydd rydyn ni’n eu bwyta yn aml yn ymestyn i bedwar ban byd ac yn dibynnu ar lafur llawer o bobl. Trwy longau, lorïau, mewn caeau, mewn ffatrïoedd, rydym yn gysylltiedig â rhwydwaith fregus sy’n agored i effaith digwyddiadau lleol, byd-eang a hinsoddol niferus. Mae gen i ddiddordeb yn y posibilrwydd o ysgrifennu drama ar gyfer mannau nad ydynt yn theatr, a’r adleisiau a’r cysgodion sydd i’w cael mewn warysau, dociau llwytho, eiliau archfarchnadoedd, canolfannau dosbarthu bwyd a cheginau cymunedol. Fy uchelgais yw creu darn annisgwyl, goleuedig a difyr a fydd yn adrodd stori gartrefol ond epig. Fy nod yw ysbrydoli cynulleidfaoedd i feddwl am y straeon a’r ffactorau niferus sydd ym mhob cegaid o fwyd, a sut, trwy fwyta, mae ein tynged yn gysylltiedig â phobl na fyddwn byth yn cwrdd â nhw.”

Fe greodd cais ysgrifennwr newydd argraff fawr ar dîm Papertrail – yr actor, ysgrifennwr a’r cynhyrchydd o’r Fenni, Nia Gandhi. Mae Nia wedi gweithio’n ddwyieithog gyda Theatr Cymru ar Pijin/Pigeon, Cwmni Frân Wen ar Corn Gwlad a gyda Kali Theatre yn Birmingham Rep, Theatr Clwyd a National Theatre Wales.


Fel ysgrifennwr mae hi wedi gweithio gyda Dirty Protest, Theatr y Sherman ac yn ddiweddar fe ddechreuodd weithio gyda JHOOM – y cwmni cyntaf i greu gwaith gan ac ar gyfer cymuned De Asia yng Nghymru.

Dywedodd Nia, “Rydw i mor falch o fod yn gweithio gyda Papertrail fel Egin Artist Cyswllt oherwydd eu gallu i ymgysylltu â chymunedau mewn ffordd ddilys a’u ffocws ar hygyrchedd go iawn. Rwy’n gobeithio elwa o’u harbenigedd wrth weithio ar fy mhrosiect “Half Spaces”, prosiect sy’n ymwneud â’r profiad o dyfu i fyny gyda threftadaeth ddeuol, fel person awtistig mewn tref ar y ffin yng Nghymru; gan edrych yn benodol ar elfennau cymunedol ac ymgysylltu’r prosiect hwn.”

“Rydym yn hynod gyffrous i fod yn cefnogi Sam, Catherine a Nia. Mae pob un ohonynt yn artistiaid angerddol a deinamig sydd eisiau rhannu straeon gan gymunedau nas clywyd ganddynt yn aml iawn. Mae Catherine a Sam yn ysgrifenwyr canol gyrfa sy’n awyddus i ddyrchafu eu hymarfer, dysgu sgiliau newydd a chyfrannu’n greadigol at Papertrail. Fe greodd cais Nia argraff fawr arnom a dros y flwyddyn nesaf byddwn yn ei chefnogi fel Egin Artist Cyswllt. Fe dderbyniom geisiadau gan nifer anhygoel o artistiaid talentog ac mae wedi dod yn glir faint o bobl greadigol gwych sydd angen mwy o gyfleoedd i gefnogi eu gwaith yng Nghymru.” Bridget Keehan, Sylfaenydd a Chyd-gyfarwyddwr Artistig Papertrail.

Mae Papertrail yn bodoli i ddadorchuddio straeon sydd heb eu dweud, a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd mewn ffyrdd gafaelgar. Mae pob cynhyrchiad yn cyfuno ysgrifennu nodedig â llwyfannu anturus. Mae hygyrchedd creadigol yn greiddiol i’w gwaith yn ogystal â’u dull o greu prosiectau drwy breswyliad. Mae Papertrail yn gweithio’n agos gyda chymunedau i ddod o hyd i’r stori sydd angen gwrandawiad. Mae’n grymuso artistiaid i greu theatr anhygoel sy’n herio canfyddiadau ac yn cysylltu â chynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.

Cefnogir Papertrail gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.