Blog Papertrail
-
Blog Nia
Yn ystod fy amser fel Artist Cysylltiol gyda Llwybrau Papur cychwynnais y Clwb Awduron Awtistig – grŵp o Fenywod Awtistig a phobl anneuaidd sydd â diddordeb mewn ysgrifennu creadigol. Cafodd ei ysbrydoli gan y ffaith fy mod yn gweld dulliau ysgrifennu traddodiadol a’r dulliau o ymwneud â strwythur yn anodd. Ni allwn fyth gael fy mhen i’w deall ac roedd eu defnyddio yn teimlo fel cuddio rhywbeth. Nid oeddwn yn swnio fel fi fy hun felly fe wnes i’r penderfyniad o feddwl am ddull a allai weithio’n well i mi; yn ymgorffori byrfyfyrio, sain, symud ac ysgrifennu rhydd. Dros y blynyddoedd… Blog Nia
-
Catherine Dyson, ein Artist Cyswllt, ar Lwyfannau Creadigol
Teimlais yn freintiedig i gael fy nghroesawu’n wresog fel Artist Cyswllt Papertrail ar ddiwrnod dau o gwrs Llwyfannau Creadigol, ac i wrando ar rai o’r sgyrsiau gonest ac ysbrydoledig a oedd yn digwydd rhwng cyfarwyddwyr a dehonglwyr. Ac roedd hi’n hyfryd taro mewn i Katie Fenwick, un o’r dehonglwyr ar y cwrs. Gweithiais gyda hi y llynedd ar ddrama o’r enw The Luminous, a ysgrifennais a pherfformiais ynddi ar gyfer cwmni Theatr RedCape. Rhoddodd gweithio gyda Katie ar y cynhyrchiad hwnnw gipolwg imi ar ba mor amlochrog a chymhleth yw swydd dehonglydd. Dangosodd mynychu Lwyfannau Creadigol imi pa mor wrioneddol niferus… Catherine Dyson, ein Artist Cyswllt, ar Lwyfannau Creadigol


