Photograph of Nia Ghandi

Blog Nia

Yn ystod fy amser fel Artist Cysylltiol gyda Llwybrau Papur cychwynnais y Clwb Awduron Awtistig – grŵp o Fenywod Awtistig a phobl anneuaidd sydd â diddordeb mewn ysgrifennu creadigol.

Cafodd ei ysbrydoli gan y ffaith fy mod yn gweld dulliau ysgrifennu traddodiadol a’r dulliau o ymwneud â strwythur yn anodd. Ni allwn fyth gael fy mhen i’w deall ac roedd eu defnyddio yn teimlo fel cuddio rhywbeth. Nid oeddwn yn swnio fel fi fy hun felly fe wnes i’r penderfyniad o feddwl am ddull a allai weithio’n well i mi; yn ymgorffori byrfyfyrio, sain, symud ac ysgrifennu rhydd. Dros y blynyddoedd rwyf wedi dechrau defnyddio’r strategaethau hyn i’m helpu i ysgrifennu’n fwy dilys. 


Pan wnes i sôn am y dull hwn wrth bobl eraill sy’n Awtistig, fe welais bod fy mhrofiad yn un cyffredin. Gwnaeth hyn i mi ystyried a allwn greu grŵp awduron i bobl eraill yng Nghymru sy’n Awtistig i ddarganfod dulliau newydd a allai weithio’n well iddynt hwythau hefyd. Roeddwn am greu amgylchedd lle gallai’r rhai oedd yno deimlo’r rhyddid i greu eu proses benodol eu hunain a pheidio teimlo bod rhaid iddyn nhw weddu i ddiffiniad cyffredinol o hygyrchedd.

Yn ystod y cyfnod ymchwil fe weithiais un i un gydag awduron Awtistig ar draws Cymru i gael gwybod sut y gallai grŵp awduron weithio iddyn nhw, beth fydden nhw’n ei obeithio ei gael oddi wrtho a sut y bydden nhw’n hoffi rhyngweithio ag o. O’r ymchwil hwn ymddangosodd y Clwb Awduron Awtistig. 

Rwyf wedi dysgu cymaint am yr hyn y gall grŵp fel hyn ei olygu i bobl a sut y gall fod o fudd. Dyma oedd fy nhro cyntaf yn ymgeisio am gyllid ac yn arwain prosiect ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Llwybrau Papur a JHOOM. 

Yn y dyfodol byddwn wrth fy modd petai’r grŵp hwn yn parhau i dyfu, gan gynnal ei ymrwymiad i addasu ar gyfer pawb sy’n dymuno cymryd rhan. Er mwyn gwneud hyn mae angen i mi ddatblygu tîm craidd i’m cefnogi trwy’r camau nesaf. Bydd hyn yn fy ngalluogi i gyflawni hyn hyd eithaf fy ngallu gan barchu fy anghenion hygyrchedd fy hun. Rwy’n edrych ymlaen at weld hyn yn dod yn ffaith a gweithredu ar bopeth yr wyf wedi ei ddysgu yn y broses gychwynnol hon!