Mae Glanhawyr yn daith theatrig drwy eiriau a straeon glanhawyr sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Bydd y perfformiad yn digwydd mewn bloc swyddfeydd a bydd y gynulleidfa’n ymuno â’r glanhawyr ar y ‘shifft nos’. Math o gyfnos hudolus rhwng ffuglen a realiti. Bydd agweddau ar osod, rhyngweithio â’r gynulleidfa a’r cyfle i ddarganfod bywydau rhyfeddol Glanhawyr.