Llwyfannau Creadigol
‘Dyn ni bellach wedi cwblhau ein cwrs hyfforddi cyntaf ar gyfer cyfarwyddwyr llwyfan a dehonglwyr iaith arwyddion cofrestredig. Mae nod Llwyfannau Creadigol yn un syml: chwalu rhwystrau yn y celfyddydau, cysyniad sydd wrth wraidd bwriad cwmni Papertrail.
Roedden ni eisiau i ddehonglwyr ddatblygu eu sgiliau llwyfan ac i gyfarwyddwyr llwyfan weithio’n greadigol gyda dehonglwyr llwyfan, ond yn fwy na dim roedden ni eisiau dod â phobl ynghyd i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Roedd yr ystafell yn fwrlwm o sgwrsio a chreadigrwydd: gweler y dyfyniadau isod! Edrychwyn ymlaen at gyfnod nesaf yr hyfforddiant. ‘Dyn ni eisioes wrthi’n brysur yn cynllunio ein cwrs Llwyfannau Creadigol nesaf.
“Mae bod gyda chymaint o bobol sy’n angerddol am wneud theatr hygyrch a chyffrous wedi bod yn ysbrydoledig — yn barod, ‘dyn ni’n sôn am greu maniffesto.”
“Pan mae dehonglwyr yn rhan o’r tîm creadigol, daw theatr yn fwy dyfeisgar, yn fwy deinamig, ac yn wirioneddol gynhwysol.
“Mae’r cwrs wedi bod yn agoriad llygad — yn sydyn, death beth roedd yn ymddangos fel synnwyr cyffredin i deimlo fel newid radical.”
Prosiectau sy’n cael eu Datblygu
-
Read More
Moses Grobbelaar & Me (teitl gweithiol)
gan Jonny Cotsen and Bridget Keehan. Sioe lled-hunangofiannol ddoniol ac ingol, wedi’i hysbrydoli gan brofiad Jonny o wneud eiBar Mitzvah,…
-
Read More
Cleaners
gan Samantha O’Rourke Mae Glanhawyr yn daith theatrig drwy eiriau a straeon glanhawyr sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd…
-
Read More
Foodchain (teitl gweithiol)
gan Catherine Dyson O flaen plât o fwyd, eistedda fenyw wrth fwrdd cinio. Mae’n codi ei chyllell a’i fforc, ond…