Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gynhyrchu Ymweliad yn 2024. Byddwn yn rhannu mwy o fanylion am hyn a’n rhaglen gweithdai cysylltiedig yn yr ychydig wythnosau nesaf.




(Yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd)
Mae Angharad yn 15 mlwydd oed. Mae’r daith i ymweld â’i mam yn y carchar yn cymryd 5 awr.
Ac yna, wedi cyrraedd, dim ond 1 awr sydd ganddynt gyda’i gilydd.
Pwysau.
Efallai byddai’n haws iddi beidio ymweld o gwbl?
Mae’r cynhyrchiad hwn yn archwilio’r boen o fod yn riant o dan glo yn y carchar, byd i ffwrdd o’ch plant.
Rydym wrthi yn datblygu’r stori hon, wedi ei hysgrifennu gan Siân Owen (This Land / How to be Brave) mewn partneriaeth â Clean Break, gyda chefnogaeth a Gwasanaeth Prawf Cymru.