gan Catherine Dyson
O flaen plât o fwyd, eistedda fenyw wrth fwrdd cinio. Mae’n codi ei chyllell a’i fforc, ond yna’n darganfod nad yw hi’n medru bwyta. Yn hytrach, llifa straeon o’i cheg. Perfformiad am fwyd, sy’n dechrau gyda’r plât o’n blaenau cyn lledu ar draws gofod ac amser. Perfformiad sy’n archwilio cadwyni cyflenwi ac ansicrwydd, y lliaws sydd ym mhob cegaid, a sut mae ein tyngedau wedi eu cysylltu gan y bwyd rydyn ni’n ei fwyta.