Co-Creative Director
Mae Jonny Cotsen yn athro Celf cymwys ond gadawodd ei yrfa addysgu i ddatblygu ei hun fel artist perfformio ac ymgynghorydd creadigol ar gyfer cynhwysiant yn y celfyddydau. Mae Jonny yn eiriolwr brwd dros well mynediad i’r Celfyddydau. Perfformiodd Jonny ‘Louder Is Not Always Clearer’ a gynhyrchwyd, cyfarwyddwyd a chyd-ysgrifennwyd gan Mr a Mrs Clark. Mae ‘Louder Is Not Always Clearer’ wedi teithio’n helaeth ledled y DU ac Ewrop ac wedi mwynhau cyfnod llwyddiannus yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2019. Fe’i datblygwyd yn ffilm fer gan On Par Productions a Mr a Mrs Clark. Fe’i dangoswyd gan BBC Arts ar gyfer eu tymor Culture In Quarantine. Dangoswyd rhaglen ddogfen Jonny ‘Born Deaf, Raised Hearing’ fel rhan o’r gyfres ‘Our Lives’ ar y BBC. Arweiniodd Jonny Hear We Are a archwiliodd safbwynt croestoriadol pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw sy’n gweithio yn y sector creadigol yng Nghymru, neu wedi’u heithrio ohono. Wedi hynny, datblygwyd Deaf Together a greodd dri diwrnod o ddigwyddiadau, gweithgareddau a pherfformiadau dan arweiniad pobl Fyddar ym mis Mai 2023. Mae Jonny yn mwynhau ysgrifennu ac mae’n awdur llyfr plant, ‘Gwion’s World’ a gyhoeddwyd gan Harper Collins. Mae’r llyfr yn seiliedig yn fras ar ei brofiad bywyd ei hun fel person byddar. Mae Jonny yn Asiant dros Newid gyda Craidd ac mae hefyd yn ymddiriedolwr gyda Theatr Iolo.

