Catherine Dyson, ein Artist Cyswllt, ar Lwyfannau Creadigol

Teimlais yn freintiedig i gael fy nghroesawu’n wresog fel Artist Cyswllt Papertrail ar ddiwrnod dau o gwrs Llwyfannau Creadigol, ac i wrando ar rai o’r sgyrsiau gonest ac ysbrydoledig a oedd yn digwydd rhwng cyfarwyddwyr a dehonglwyr. Ac roedd hi’n hyfryd taro mewn i Katie Fenwick, un o’r dehonglwyr ar y cwrs. Gweithiais gyda hi y llynedd ar ddrama o’r enw The Luminous, a ysgrifennais a pherfformiais ynddi ar gyfer cwmni Theatr RedCape. Rhoddodd gweithio gyda Katie ar y cynhyrchiad hwnnw gipolwg imi ar ba mor amlochrog a chymhleth yw swydd dehonglydd.

Dangosodd mynychu Lwyfannau Creadigol imi pa mor wrioneddol niferus a phwerus yw’r posibiliadau. Roedd hi’n gyffrous gwylio’r cyfarwyddwyr a’r dehonglwyr yn cyd-weithio ar rai o’r golygfeydd, a gweld faint o haenau y medrir eu darganfod o fewn testun trwy weithio’n greadigol gyda dehonglwyr. Gwyliais golygfeydd lle daeth y dehonglydd yn doppelgänger, yn gythrail, yn ddrych, yn bartner comig, yn feirniad, yn efaill, yn demtasiwn, yn amddiffynnydd, yn brofociwr, yn enaid, yn ysbïwr, yn farnwr, yn boltergeist, yn Fam Natur, yn Dduw … roedd y posibiliadau’n teimlo’n ddiddiwedd. Trwy arsylwi o safbwynt awdur, ystyriais sut allwn i fel dramodydd ddefnyddio’r potensial hwn. Mae’n teimlo fel posibilrwydd grymus y byddwn yn caru ei archwilio a thrafod ag eraill … efallai Lwyfannau Creadigol ar gyfer awduron nesaf?