Hyfforddodd Kate yn wreiddiol fel cerddor ac yn awr mae’n gweithio fel ymgynghorydd busnes llawrydd yn cefnogi sefydliadau celfyddydol a gwirfoddol gyda chynllunio strategol, codi arian a rheolaeth ariannol. Mae’n gweithio’n gyson gyda’r elusen gelfyddydol ac iechyd People Speak Up. Yn y gorffennol, roedd Kate yn Rheolwr Cyffredinol ar Theatr na nÓg. Mae hefyd wedi rheoli cynllun teithio gwledig Swydd Northampton gyda Chwmni Theatr New Perspectives, bu’n Rheolwr Theatr y Corn Exchange yn Newbury ac yn lluniwr rhaglen ar gyfer Canolfan Gelfyddydau Bridport.

