Mae Ali de Souza yn addysgwr, hyfforddwr actorion a chyfarwyddwr theatr a sgrin o Coupar Angus, Swydd Perth trwy Santos, Brasil lle ganed ac y maged ei fam.

Cyn ymuno â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel Pennaeth Drama (Perfformio), roedd Ali yn Gyfarwyddwr Drama yn Ysgol Theatr yr Old Vic, Bryste o 2022. Mae ganddo raddau israddedig ac uwchraddedig mewn seicoleg (Prifysgol Dundee), actio (Ysgol Theatr Old Vic, Bryste) a chyfarwyddo ar y sgrin (Prifysgol y Frenhines Margaret). Gweithiodd yn eang fel actor a chyfarwyddwr ym maes theatr a ffilm am dros 35 mlynedd gyda llawer o gwmnïau ledled y Deyrnas Unedig. Dysgodd actio a chyfarwyddo ym Mhrifysgol y Frenhines Margaret am chwe blynedd a daeth yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer BA Actio yno cyn ymuno â Conservatoire Frenhinol Yr Alban fel Pennaeth Actio Cysylltiol yn 2008.